Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dysgu Trochi
Byddwch yn hyfforddi mewn amgylcheddau dysgu efelychol sy’n monitro’ch sgiliau arwain a gwneud penderfyniadau. PDC yw un o’r prifysgolion prin yn y byd a’r unig brifysgol yng Nghymru i fod â Chanolfan Efelychu Hydra. Mae myfyrwyr Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hyfforddi yn yr amgylchedd dysgu efelychol hwn sy’n monitro’u harweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau mewn amser real yn ystod digwyddiadau critigol. Byddwch yn profi senarios astudiaeth achos go iawn ac mae’n ffordd wych o ddysgu mewn amgylchedd diogel.
Dysgu o’r arbenigwyr
Mae ein haddysgu yn defnyddio dull aml-asiantaeth sy’n adlewyrchu realiti’r gweithle. Mae’n cwmpasu lleoliadau gofal cymdeithasol, y GIG, y trydydd sector a sectorau annibynnol, ysgolion ac elusennau. Yn dibynnu ar eich cwrs, cewch eich addysgu gan gymysgedd o nyrsys profiadol, ymarferwyr iechyd cyhoeddus, deietegwyr, gweithwyr ymarfer corff proffesiynol ac ymgynghorwyr polisi, gan sicrhau y bydd gennych set gryf ac amrywiol o arbenigedd i’ch arwain trwy eich astudiaethau.
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Mae symud allan o’r ystafell ddosbarth ac i’r gweithle yn elfen allweddol, gyda dysgu seiliedig ar waith a chyfleoedd gwirfoddol mewn ystod o leoliadau drwy gydol y cwrs. Mae’r profiadau hyn yn caniatáu i chi weithio gydag amrywiaeth o bobl mewn amgylcheddau aml-asiantaeth. Bydd profiad fel hyn yn eich helpu i feithrin sgiliau proffesiynol ac yn caniatáu i chi archwilio’r opsiynau gyrfa niferus sydd ar gael i chi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.