.
Roedd 93% o fyfyrwyr LLB y Gyfraith PDC yn fodlon gyda’u cwrs ac roedd 100% o fyfyrwyr LLB y Gyfraith (Llwybr Carlam) PDC yn fodlon gyda’u cwrs.
YR AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2024
100% OF LLB LAW (ACCELERATED ROUTE) STUDENTS AT USW WERE SATISFIED WITH THEIR COURSE.
YR AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2024
Y Gyfraith
Lleoliadau, prosiectau a chyflogadwyedd
Rydym yn sicrhau eich bod yn rhoi theori ar waith i ennill sgiliau cyfreithiol allweddol. Rydym yn gweithio gyda’r sector gwasanaethau cyfreithiol i ddarparu lleoliadau gwaith i chi, gan gynnwys yn Admiral Law a Hugh James. Gall myfyrwyr fanteisio ar gyfleoedd allgyrsiol gan gynnwys Streetlaw yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, sef prosiect cydweithredol gyda Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, sy’n cynnig arweiniad ar gyfraith cyflogaeth i ymgyfreithwyr drosto’u hun.
Mae pob myfyriwr y Gyfraith yn cael cyfle i gymryd rhan mewn addysg gyfreithiol glinigol a gallent wirfoddoli fel Cynghorydd sy’n Fyfyriwr yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, clinig pro bono dan arweiniad myfyrwyr sy’n cynnig cyngor cyfreithiol i aelodau’r cyhoedd.
Awyrgylch dysgu proffesiynol
Mae gan Brifysgol De Cymru gyfleusterau astudio trawiadol ar gyfer y gyfraith. Mae’r rhain yn cynnwys Clinig Cyngor, Ystafell Ffug Lys, ystafell Hydra a llyfrgell ymarfer cyfreithiol.
Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ein hamgylcheddau dysgu amrywiol, o gyfweld ag aelodau’r cyhoedd yn y Clinig Cyngor i ffug brofion a threialon yn ein Ffug Lys, sy’n eich paratoi ar gyfer eich dyfodol fel myfyriwr graddedig o Brifysgol De Cymru.
Mae ein cyrsiau’n cael eu cydnabod gan yr Awdurdod Rheoliadau Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau’r Bar, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch paratoi ar gyfer symud ymlaen i fod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr.
Rhestr cyrsiau