Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Drama Pherfformio

Datblygu'r sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch i ymgysylltu â'r sîn greadigol yng Nghaerdydd, y DU a thu hwnt. Mae Caerdydd yn enwog am ei ddiwylliant cerddorol a chelfyddydol, ac rydym wedi’n lleoli yng nghanol y ddinas. Mae ein cysylltiadau â chymunedau creadigol Cymru yn darparu amgylchedd llawn diwylliant ar gyfer eich profiad fel myfyriwr. Wedi’ch amgylchynu gan gyfleoedd amrywiol i ddatblygu eich creadigrwydd, byddwch chi'n dysgu sut i fynegi eich syniadau, creu ffyrdd newydd o edrych ar y byd, a sut i berfformio'n hyderus ac yn greadigol - y sgiliau fydd eu hangen arnoch i gyfoethogi eich bywyd chi ac eraill.

Drama a Pherfformio

.

CAERDYDD CREADIGOL

Caerdydd yw canolbwynt cynhyrchiad Theatr, Teledu a Ffilm yng Nghymru, a’r clwstwr cyfryngol trydydd mwyaf y DU. Mae’r ddinas yn cynnig llawer o gyfleoedd i wylio, trafod a chyfrannu at waith sy’n cael ei wneud wrth i chi astudio. Mae myfyrwyr wedi gweithio ar sioeau arobryn fel ‘His Dark Materials’ (BBC), ‘Industry’ (HBO), a ‘Sex Education’ (Netflix) fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi llwybrau gyrfa clir a chynaliadwy. Mae partneriaethau gyda lleoliadau theatr, cynhyrchwyr a sefydliadau cymunedol yn cynnig cyfleoedd perfformio byw a chelfyddydau cymhwysol. Erbyn i chi raddio, bydd gennych y sgiliau ar gyfer ystod eang o lwybrau yn y sector creadigol.

 

Ymgysylltu â’r diwydiant

Mae partneriaid yn y diwydiant yn cyfrannu at ddatblygiad, a chyflwyniad ein cyrsiau. Maent yn cynnal lleoliadau gwaith, yn cyfarwyddo cynyrchiadau, yn rhoi dosbarthiadau meistr ac yn cyd-gyflwyno prosiectau cyhoeddus. Gan weithredu mewn amrywiaeth o amgylcheddau mae eu harbenigedd yn cynnwys: Theatr gynhwysol (Hijinx, Taking flight), theatr Gymraeg (Frân Wen), Cyfranogiad ac Ymgysylltu (yello brick), Datblygu Cymunedol (Valleys Kids), Cynhyrchu a rheoli’r celfyddydau (Theatr Sherman, Glan yr Afon Casnewydd), Sgiliau a datblygiad gyrfa (Screen Alliance Wales, Gŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris), Celfyddydau cymhwysol (Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru).

Perfformio ar waith

Mae ein cyrsiau Perfformio i gyd wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau, yr hyder a’r gefnogaeth i chi i greu a darparu perfformiadau gwych. Mae myfyrwyr Theatr a Drama yn dyfeisio ac yn cyflwyno gweithdai drama mewn partneriaeth â sefydliadau celfyddydau cymunedol, tra bod ein myfyrwyr Perfformio a’r Cyfryngau yn creu gwaith arloesol  gan ddefnyddio fideo 360, Mapio Taflunio, Darlledu a thechnolegau Cynhyrchu Rhithwir.

Yn agosach at adref, gall myfyrwyr roi eu sgiliau chwarae rôl a byrfyfyr ar brawf trwy gefnogi nyrsys dan hyfforddiant, seicolegwyr a hyfforddeion yr heddlu PDC yn ystod ymarferion ‘golau glas’ sy’n efelychu digwyddiadau mawr.

Dysgu gan ein harbenigwyr

Mae ein hacademyddion yn wneuthurwyr ac ymchwilwyr a gydnabyddir gan ddiwydiant ac sy’n uchel eu parch yn rhyngwladol. Maent yn creu ymchwil sy’n arwain y byd, yn cyhoeddi llyfrau, yn ysgrifennu sgriptiau, yn cyfarwyddo, yn ffilmio, yn coreograffu, ac yn perfformio ar gyfer y llwyfan a’r sgrin. Mae’r mewnwelediadau, arbenigedd, rhwydweithiau o staff yn cael eu rhannu gyda chi drwy addysgu ymarferol a chymhwysol drwy gydol eich astudiaethau.

Ar y campws, bydd gennych fynediad i’n theatr hygyrch 150 sedd, theatrau  stiwdio, ystafelloedd ymarfer, stiwdio deledu ac ystafell reoli, cyfleusterau podledu a labordai arloesi (cynhyrchu rhithwir a theatr trochi). Wrth i chi ddysgu sut i ddefnyddio offer o safon diwydiant, byddwch yn cydweithio ar gynyrchiadau cyhoeddus gan ennill sgiliau a phrofiadau i ddatblygu eich CV.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

22.03.25

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

14.06.25

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?