Lleoliadau Gwaith a Chysylltiadau â’r Diwydiant
Lleoliadau Gwaith a Chysylltiadau â’r Diwydiant
Bydd lleoliadau gwaith yn rhan bwysig o ddysgu yn PDC. Maen nhw’n caniatáu i chi ddatblygu sgiliau allweddol a phrofiad ymarferwyr, a deall y cyd-destunau y byddwch yn gweithio ynddyn nhw pan fyddwch yn graddio.
Mae myfyrwyr cwnsela yn ymgymryd â lleoliadau gwaith ym mhob blwyddyn o’r cwrs, gan gynnwys 100 awr o ymarfer broffesiynol dan oruchwyliaeth yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, a fydd yn eich paratoi’n llawn ar gyfer eich gyrfa cwnsela. Mae ein gwasanaeth cwnsela mewnol a’n gwasanaeth cwnsela ysgolion hefyd yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith i ddatblygu sgiliau allweddol a phrofiad ymarferol ar gyfer eich CV.
Gall myfyrwyr Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brofiad gwaith, gan ddarparu gweithdai celfyddydau therapiwtig i gyfranogwyr mewn wardiau ysbyty, unedau arbennig, ysgolion a sefydliadau cymunedol ymhlith eraill. Cewch eich addysgu gan grŵp o ddarlithwyr profiadol â chefndir ym meysydd celfyddyd gain, celfyddydau cyfranogol a chymunedol, dylunio hygyrch, rheoli celfyddydau a seicotherapi celfyddydau, a byddwch yn gweithio ochr yn ochr â nhw. Byddan nhw’n eich cefnogi i guradu arddangosfeydd, creu gwaith celf wedi’u hysbrydoli’n therapiwtig ac archwilio syniadau iechyd a lles drwy wneud.
Mae gan y Brifysgol bartneriaeth hirsefydlog â’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a gallwch wneud cais i unrhyw un o’r sefydliadau hyn fel rhan o’ch profiad gwaith.
.
Sgiliau Ymarferol a Chyfleusterau Rhagorol
Mae gan ein Campws yng Nghasnewydd gyfres o ystafelloedd i ymarfer sgiliau cwnsela unigol. Mae myfyrwyr yn defnyddio adnoddau arbenigol ar gyfer technegau cwnsela ar-lein, a chyfleusterau recordio fideo pwrpasol i fireinio’u technegau a meithrin sgiliau digidol ychwanegol.
Mae gan fyfyrwyr Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ar Gampws Trefforest fynediad i stiwdios celf pwrpasol a mannau addysgu sy’n cynnwys ystod o offer a deunyddiau. Yma gallwch arbrofi â gwahanol gyfryngau a chreu gwaith o safon uchel sy’n eich adlewyrchu chi fel Ymarferydd Creadigol. Mae ein partneriaethau arbenigol â sefydliadau cymunedol, cynghorau tref a sefydliadau iechyd yn darparu sylfaen ar gyfer prosiectau oddi ar y campws ym mhob blwyddyn o’r cwrs. Mae’r partneriaethau hyn yn galluogi profiadau gwerthfawr yn y byd go iawn o fewn amrywiaeth o sefydliadau a’r cyfle i effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl eraill wrth astudio.