Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Ynglŷn â’r Cwrs
Mae’r radd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ddeinamig hon yn cyfuno astudio ysgrifennu creadigol a phroffesiynol gydag ystod o fodiwlau cyflenwol sy’n archwilio iaith a llenyddiaeth Saesneg. Mae’r radd yn ymgorffori hyfforddiant a phrofiad o ddefnyddiau Saesneg yn y gymuned a’r gweithle: gyda chyfleoedd megis cynnal gweithdai ysgrifennu ar gyfer lles, hyfforddiant yn y cyfryngau a sgiliau cynhyrchu, ennill profiad addysgu, cydweithio â’r diwydiannau creadigol a chyhoeddwyr.
O Shakespeare i lenyddiaeth troseddau modern a ffantasi, mae ein gradd Saesneg yn gwella sgiliau allweddol trosglwyddadwy megis mynegiant, meddwl beirniadol ac ysgrifennu. Nid dim ond ysgrifennu ffuglen y mae myfyrwyr Ysgrifennu Creadigol yn ei ddysgu, maen nhw hefyd yn ymarfer blogio, cyfryngau digidol, ysgrifennu copi a chyfnodolion teithio, gan ddysgu sut i greu cynnwys digidol effeithiol y gellir ei gyhoeddi a’i werthu.
Ochr yn ochr â datblygu eich sgiliau mewn ysgrifennu ffuglen, barddoniaeth, ysgrifennu sgriptiau a ffeithiol, byddwch yn ennill sgiliau arbenigol mewn dadansoddi a darllen agos. Mae datblygu’r sgiliau hyn yn golygu y byddwch yn barod ar gyfer y gweithle pan fyddwch yn graddio.Mae yna hefyd lawer o gyfleoedd i weithio ar leoliadau a phrosiectau i gefnogi eich gyrfa yn y dyfodol.
Siaradwyr gwadd
Rwy'n credu bod astudio unrhyw radd Saesneg, boed hynny'n Ysgrifennu Creadigol neu Lenyddiaeth Saesneg, yn rhoi seiliau cadarn i chi ar gyfer unrhyw swydd. Mae eich set sgiliau yn dod yn addasadwy.
Rebecca Morgan Bill
BA (Anrh) Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Mae gan Brifysgol De Cymru un o'r adrannau Saesneg gorau yn y wlad. Felly, hawdd oedd penderfynu ble i astudio.
Melanie Smith
BA (Anrh) Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Siaradwyr gwadd
Addysgir ein graddau Saesneg gan academyddion sy’n arwain y byd yn eu meysydd astudio a gan feirdd ac awduron ffuglen arobryn.
Maen nhw hefyd wedi buddio o awduron gwadd blaenllaw, gan gynnwys Benjamin Zephaniah, Dannie Abse, Gillian Clarke, Gwyneth Lewis a llawer mwy.
Cyrsiau