Profiad Gwaith
Mae'r cwrs hwn wedi fy arfogi gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnaf. Roedd cymaint o brofiad ymarferol, sydd wir wedi apelio at gyflogwyr.
Livvy Cropper
BSc (Anrh) Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol
Dechreuwch eich gyrfa cyn i chi raddio
Mae gan PDC dîm ymroddedig i’ch helpu chi i ddod o hyd i brofiad gwaith sy’n gysylltiedig â gyrfa yn y DU a thramor. Mae yna wahanol fathau o brofiad gwaith, felly rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i un sy’n addas i chi.
Mae gan rai o’n cyrsiau flwyddyn o brofiad gwaith, o’r enw ‘blwyddyn ryngosod’, wedi’i hymgorffori – gwiriwch yr opsiynau astudio ar gyfer eich cwrs. Mae’n gyfle gwych i dreulio amser yn y gweithle a chael profiadau perthnasol i siarad amdanynt mewn cyfweliad. Gallech hyd yn oed ystyried prentisiaeth gradd i gyfuno astudio â chyflogaeth.
Partneriaethau diwydiant
Partneriaethau proffesiynol
Mae ein cysylltiadau proffesiynol yn darparu gwybodaeth arbenigol a phrofiadau hanfodol.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid diwydiant i lunio’ch dysgu, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu bywyd go iawn a gofynion cyflogwyr. Mae gan lawer o’n graddau achrediadau gan gyrff proffesiynol. Mae’n arwydd o’u safon uchel ac yn dangos bod cynnwys y cyrsiau’n cwrdd â safonau’r diwydiant.
Yn PDC, rydych chi’n gwybod y bydd gennych chi’r wybodaeth gywir wedi’i hatgyfnerthu gan sgiliau ymarferol perthnasol. Mae ein partneriaethau yn agor byd o gyfle i chi ail-ddychmygu eich yfory.
Ein cyfleusterau
Ystafelloedd dosbarth wedi’u hail-ddychmygu
Yn PDC, gallwch ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch mewn amgylcheddau sy’n ail-greu’r gweithle. O offer i feddalwedd i ymarfer proffesiynol, cynyddwch eich hyder ar y campws a byddwch yn barod ar gyfer y byd go iawn. Ymhlith rhai enghreifftiau o’n hymagwedd mae ein sied awyrennau, ward ysbyty, tŷ safle trosedd, stiwdios recordio a chyfleusterau chwaraeon o safon ryngwladol oll ar y campws. Bod yn ymarferol yw’r man cychwyn sydd ei angen arnoch chi.
Cwricwlwm
Mae addysgu’n cael ei lywio gan gyflogwyr a beth sy’n digwydd yn y gweithle, felly byddwch chi’n ennill sgiliau perthnasol i’ch rhoi ar y blaen i’r gystadleuaeth. Hefyd, byddwch chi’n cael eich dysgu ac yn clywed gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn yn eich maes.
Gyrfaoedd PDC
Bydd Gyrfaoedd PDC yn eich helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a sut i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch. Rydyn ni hyd yn oed yma i chi ar ôl i chi raddio, gan gynnwys cyngor gyrfa personol, cymorth ymgeisio a hysbysiadau swyddi i raddedigion.
Prentisiaethau Gradd
Prentisiaethau Gradd
Mae prentisiaethau gradd yn ddewis amgen i astudiaethau traddodiadol prifysgol sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg myfyrwyr. Byddwch yn cael eich lleoli mewn awyrgylch gwaith gan ennill profiad o weithio mewn gweithle go iawn ac ennill cyflog tra’n gweithio tuag at gymhwyster gradd ar yr un pryd wedi i chi gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.
Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag prentisiaeth gradd mewn Plismona Gweithredol, Peirianneg, Technolegau Lled-ddargludyddion, a Datrysiadau Digidol a Thechnoleg.